Y Byd Naturiol
Profiad unigryw a bythgofiadwy yw darganfod bywyd gwyllt Sir Benfro. Mae’r amrywiaeth aruthrol o rywogaethau bywyd gwyllt sydd i’w gweld yn adlewyrchu’r ardaloedd helaeth o gynefinoedd wedi eu gwarchod, a rownd pob cornel, bron, mae yna olygfeydd godidog yn gefndir. O glogwyni ac ynysoedd caregog dan eu sang ag adar y môr yn nythu, coetiroedd mwsoglyd yn llawn o flodau’r gwanwyn, morloi bychain ar y traethau, dyfrgwn yn yr afonydd, pili-palaod ar weundir a gwas-y-neidr ar rostir, mae yna ddewis di-ddiwedd o lefydd i’w harchwilio a mannau i ddod o hyd i ddarganfyddiadau cyffrous.
Coetiroedd
Bach iawn o goetir helaeth sydd yn Sir Benfro oherwydd cliriwyd llawer ohono cyn diwedd y 19eg ganrif. Ers hynny, plannwyd peth coetir yn fasnachol, ac mae coed wedi adfywio’n naturiol yn rhai o’r dyffrynnoedd serth . Mae yna sawl poced fechan o goetir hynafol sy’n dal i fod yn gyflawn, ac mae pob un yn cael ei gwarchod.
Yr Arfordir
Cafodd Arfordir Sir Benfro ei ddynodi’n Barc Cenedlaethol yn 1952, ac mae’n ardal sy wedi’i warchod, a gellir ei dramwyo ar droed ar hyd Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Cyfrannodd amrywiaeth daearegol y 186 milltir o arfordir tuag at yr amrywiaeth o gynefinoedd arfordirol sydd ar gael heddiw.
Aberoedd a dyfrffyrdd
Denir gwahanol fathau o fywyd gwyllt i’r gwahanol fathau o 'ddyfroedd' sydd yn y sir. Ceir nentydd ac afonydd, cronfeydd, llynnoedd ac aberoedd, sydd oll yn cynnig cartref i amrywiaeth o blanhigion, anifeiliaid, adar, pysgod a phryfed.
Tirweddau wedi’u Dylunio
Ers y dyddiau cynnar gadawodd dyn ei ôl ar y dirwedd o’i amgylch boed yn ddechrau amaethyddiaeth neu erddi ffurfiol diweddar. Mae’r adran hon yn cynnwys detholiad o ‘dirweddau wedi’u dylunio’.
