Yr Arfordir

Effaith gyfunol daeareg gymhleth a moroedd stormus sydd wedi llunio siâp morlin Sir Benfro yn glogwyni trawiadol, traethau tywodlyd, cilfachau, traethau a childraethau caregog.

Ym 1952, datganwyd y morlin cyfan yn Barc Cenedlaethol a dyma’r unig Barc Cenedlaethol arfordirol yn y Deyrnas Unedig. Mae rhannau helaeth ohono yn fynediad agored ac mae llwybr troed yn ymdroelli’n ddi-dor am 186 milltir o amgylch yr arfordir.

Document Actions