Aberoedd a dyfrffyrdd
Mae nifer o’r afonydd a’r nentydd yn y sir yn draenio i mewn i aber y Daugleddau, sy’n un o’r enghreifftiau gorau o ria (dyffryn afonydd boddedig) yn y Deyrnas Unedig. Mae llawer o’r aber wedi ei warchod oherwydd ei bwysigrwydd i hwyaid a rhodwyr yn y gaeaf, yn ogystal â bywyd y môr.
Mae yna ddau aber llai yng ngogledd y sir, yn Nhrefdraeth ac yn Aberteifi. Tua’r tir, mae yna nentydd ac afonydd bach yn lifo trwy ddyffrynnoedd arfordirol, a dwy gronfa ddŵr fewndirol. Pob un yn lle pwysig i fywyd gwyllt.
