Ysgolion a'r Capel

Mae hen ysgol yr Eglwys ar stryd y pentref ar safle bwthyn a adawodd Lewis John ym 1696 fel elusendy. Cafodd ei ddefnyddio fel tloty tan i Wrcws Arberth gael ei godi yn Allensbank ym 1838. Byddai mynychwyr yr eglwys yn rhoi eu ceffylau yma a chyfarfu ysgol i fyny'r grisiau.

Bryn Sion ChapelCapel Bryn Siôn

Y Rheithor Richard Lewis fu'n gyfrifol am ei ail-adeiladu yn ei ffurf bresennol (ar wahân i'r gegin) ym 1854. Adeiladodd yr Annibynnwyr eu hysgol eu hunain (y festri 'nawr) a chapel ym Mryn Sion. Dywedir i Lewis, Esgob Llandaf yn ddiweddarach, wrthod mynd heibio'r capel ar ei ffordd i dŷ ei frawd yn Henllan Llanddewi, gan ddewis y llwybr tarw, heibio'r hyn a elwir yn awr yn 'Old Manse'. Gelwir y ffordd hon yn Bishop's Lane hyd heddiw.

Ym 1870 daeth Bryn Sion yn Ysgol y Bwrdd. Ailadeiladwyd y capel naw mlynedd yn ddiweddarach ac ym 1895 symudodd yr ysgol i adeilad newydd i fyny'r bryn, lle'r arhosodd hyd 1973. Aeth mab i un o brifathrawon yr ysgol, a anwyd ym 1914, ymlaen i fod yn Athro Archeoleg yng Nghaergrawnt ac yn ddarlledwr poblogaidd - Dr Glyn Daniel. Caewyd ysgol yr Eglwys ym 1905.

Document Actions