Yr Hen Felin
Ar y ffordd isaf i Benalli ble mae'n croesi'r Ritec, fe welwch olion yr hen felin ŷd.
Ym 1609 roedd y felin, a gafodd ei disgrifio fel 'one
overshut mill with the banckes and watercourses thereunto belonging' yn
nwylo Thomas Bowen, a dalai rent blynyddol o 26s-10d. Roedd y felin yn
bwysig i'r gymuned hyd canol y 19eg ganrif. Ym 1841 William Athoe oedd
y melinydd. Pan ddechreuwyd mewnforio grawn yn rhad, cafodd ei newid yn
dŷ.
