Yr Artramont
Mae'r tŷ tafarn hwn yn cael ei enw oddi wrth stad teulu y Le Hunte yn Artramont, Swydd Wexford, Iwerddon.
Teulu Y Le Hunte oedd
perchnogion y mwyafrif o dir yn ardal Llanrhian hyd nes y flwyddyn
1877. Enwir yr Artramont yn gyntaf ar gyfrifiad 1891 pan mae'n
gweithredu fel swyddfa bost yn ogystal a thŷ tafarn. Roedd gan
berchennog yr Y cotiau cochion ar Fferm Treglemais Bwthyn Trefeigan
Artramont yn 1925 siarabang a byddai'n cynnal teithiau i fynd a'r
bobl leol i'r ffair gyflogi ym Mathri. Yn ystod 1940 cynhelid
marchnad amaethyddol yn y cae gyferbyn a'r Artramont. Byddai'r mart
yn dod a chryn dipyn o fusnes i'r ardal ac hyd yn oed yn ystod 1970
roedd meddygfa, banc a gorsaf betrol yn yr Artramont. Cynhelir
dosbarthiadau cyfrifiaduron yno y dyddiau hyn.
