Yr Abaty
Yr oedd gan yr eglwys gyn-Normanaidd statws 'clas' - roedd yn sefydliad mynachaidd ac yn fam eglwys. Yr oedd ganddi hawliau noddfa. Efallai fod y ddwy groes o Bryngwyn, sy'n cael eu harddangos bellach yng Nghaerdydd, yn nodi ffiniau'r noddfa.
Ymosododd y Normaniaid ar Gemais tua 1100, ac fe sefydlodd Robert
fitz Martin ei bencadlys yn Nanhyfer. Tua 1115, caniataodd ef i abaty
Tiron, yng ngogledd Ffrainc i feddiannu clas Llandudoch a sefydlwyd
priordy yno. Ym 1120 rhoddwyd statws abaty i'r priordy.
Perchenogaeth a dylanwad yr Abaty
Cafodd Abaty Llandudoch statws fel mam fynachlog priordai Ynys Bŷr, Pill (Aberdaugleddau) a Glascarreg (yn Ne Iwerddon), ac roedd ganddi eiddo yng ngogledd Penfro a Dyfnaint hefyd. Yr oedd y grant i'r mynachod yn cynnwys Pysgodfa Llandudoch. Credir i'r dull o bysgota Sân gael ei gyflwyno gan y mynachod. Yn ôl traddodiad yr oedd yr Abad yn bendithio'r pysgotwyr ger Carreg-y-Fendith ar y Netpwl, cyn iddynt ddechrau ar eu tymor pysgota. Ail-ddarganfuwyd y garreg, a elwir hefyd yn Garreg Ateb, yn y 1960au. Mae llawer o ddiddordeb wedi bod yn ddiweddar yn afalau Llandudoch, sydd o bosib wedi goroesi ar ôl i'r mynachod eu plannu yn eu gerddi. Ar hyn o bryd, mae tri math yn adnabyddus yn Llandudoch: Afal Pren Caled, Afal Pren Glas ac Afal Pig Aderyn.
Ymweliad Pwysig
Un noson o wanwyn ym 1188 daeth Archesgob Baldwin o Gaergaint a Giraldus Cambrensis (Gerallt Gymro) i Landudoch gyda mintai fawr yn cario baneri wedi eu haddurno â chroesau gwyn. Treuliasant noson yn yr Abaty, a chael eu diddanu gan yr Abad a’r Arglwydd Rhys o’r Deheubarth a Chastell Aberteifi. Y diwrnod canlynol fe bregethodd y ddau y Groes yn Aberteifi, gan recriwtio milwyr ar gyfer y croesgadau.
Diwedd y Cyfnod Mynachaidd
Yn ystod teyrnasiad Harri VIII, caewyd yr abaty; rhoddwyd yr eiddo lleol ar les cyn ei werthu i John Bradshaw o Lanandras. Efallai fod ei blasty crand yn arfer sefyll ar yr un safle â’r ficerdy heddiw.
Dilyniant
Credir bod adfeilion yr Abaty o fewn ffiniau'r clas hynafol. Cafodd hen eglwys y plwyf, a oedd yn sefyll ychydig i'r gogledd o neuadd yr eglwys bresennol, ei chyfnewid gan un arall ar safle yr eglwys bresennol , o bosib ar ôl i'r mynachdy gau. Adeiladwyd Eglwys Sant Tomos, y Ficerdy a'r Cartws, sydd yn adeiladau cofrestredig heddiw, tua chanol y 19eg ganrif. Rhoddwyd porth newydd yn yr eglwys ym 1925 ac ehangwyd y fynwent yn sylweddol.
