Yerbeston
Mae gan brif fferm Yerbeston yr un enw â’r plwyf, a hynny ers y Canol Oesoedd.
Gwyddwn fod y New Inn yn bodoli erbyn diwedd y 17eg ganrif, a’i fod yn dal i wneud busnes ym 1891. Dim ond fferm oedd yr adeilad erbyn 1910.
Roedd eglwys Yerbeston (sydd wedi cau erbyn hyn) wedi'i chysegru i Sant Lawrence. Mae'n adeilad bach a syml iawn o'r Canol Oesoedd, gyda chlochdy bychan a dim tŵr.
