Y Rutzen Arms
Adeiladwyd y Rutzen Arms gan y Barwn de Rutzen yn 1833, ar safle tafarndy llai.
Pan oedd ffordd y goets fawr i'r gorllewin yn cludo teithwyr trwy Arberth, 'roedd hon yn dafarn brysur. Fe'i drowyd yn fflatiau yn ddiweddar. Y Barwn a'r Farwnes oedd yn gyfrifol am adeiladu neuadd y farchnad y tu ôl i'r gwesty ym 1832.
Daeth yr adeilad ysblennydd hwn i'w adnabod fel Neuadd Fictoria, a'i bwrpas oedd denu masnachwyr rhag gwerthu ar y strydoedd. Defnyddiwyd y neuadd hefyd fel sinema, neuadd ddawns a chanolfan fotelu i fragwyr lleol, James Williams, cyn ei ddymchwel yn ddiweddar.
