Y Palas
Mae'r adeilad hwn o'r canol oesoedd wedi ennyn chwilfrydedd nifer helaeth o bobl ac mae'r enw 'Palas' yn awgrymu cysylltiadau o bwys. Y Cyngor Sir sydd piau'r Palas erbyn hyn.
Dadansoddwyd strwythur yr adeilad gan N D Ludlow o Cambria
Archaeology sy'n ei ddisgrifio fel 'enghraifft wych o neuadd-dy llawr
cyntaf dros seler gromennog'. Tua diwedd y canol oesoedd adeiladwyd
bloc tai bach ar y cornel i'r gogledd-ddwyrain. Bu newidiadau ac
ychwanegiadau ar ôl y canol oesoedd ond dirywiodd statws yr
adeilad. Ym 1841 roedd yn gartref i ddau weithiwr amaethyddol a'u
teuluoedd, ac felly y bu wedyn.
Mae’n edrych yn debyg mai rhes o gaeau yn ymestyn tua’r gogledd o’r Palas oedd tir y Palas yn y gorffennol. Erbyn 1699 yr oedd yn eiddo i’r teulu â oedd piau Norchard (ym Maenorbŷr) a oedd yn ffinio ag ef.
