Y Neuadd Goffa a'i Odyn Grochenwaith Ganoloesol
Codwyd y Neuadd i gofio am ddynion Trefdraeth a roes eu bywydau yn y Rhyfel Mawr.
Sefydlodd Dr David Havard, Maer Trefdraeth, 1917-1920, Gronfa 'Ein Bechgyn Ni' i godi arian i'w hadeiladu. Rhoddwyd y safle gan ei fam, Mrs Margaret Havard, ac aeth gwragedd Trefdraeth ati i godi arian ychwanegol er mwyn codi llyfrgell ac ystafell ddarllen. Agorwyd y Neuadd yn 1922. Wrth baratoi'r sylfeini ym mis Ionawr 1921 daeth adeiladwyr o hyd i ddwy odyn grochenwaith o'r bymthegfed ganrif, ac, erbyn hyn, deallir mai dyna'r unig odynnau crochenwaith Cymreig canoloesol i'w darganfod. Mae un o'r odynnau'n dal yn gyfan o dan lwyfan y neuadd.
