Y Felin
Gwelir yr olion gerllaw'r colomendy. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, y nant a oedd yn rhedeg o Park Farm, rhwng y castell a'r colomendy oedd yn gyrru'r felin.
Yr Hen Felin
Ni ymddengys fod hyn yn gwbl gyson â disgrifiad Gerallt Gymro o'r system, yn y ddeuddegfed ganrif: 'Ar ben dwyreiniol yr amddiffynfeydd ar y penrhyn, rhwng y castell, os gallaf ei alw'n hynny a'r eglwys, mae afon fechan sydd byth yn sychu yn llifo ar hyd cwm y ceir tywod yno wedi'i daenu gan wyntoedd cryf o'r môr. Mae'r afon fechan yn llifo o lyn mawr ac fe geir melin ddŵr ar ei glan'.
