Tŷ'r Tŵr
Er ei gelwir weithiau'n Hen Reithordy neu Gastell, yr adeiledd tŵr canoloesol, sy i'w weld yn fwy cyffredin yn Iwerddon a'r Alban, sy wedi rhoi iddo ei enw.
Credir bod Tŷ'r Tŵr wedi'i
godi ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg neu ar ddechrau'r
bymthegfed ganrif gan deulu de Shirburn. Roedd Tŷ'r Tŵr wedi'i
amddiffyn yn dda ac wedi'i osod oddi fewn llecyn wedi'i amgylchynu
gan ffos. Roedd y brif fynedfa wreiddiol ar y llawr cyntaf ar hyd
pont godi. Roedd yna nenfwd cromennog ar y llawr gwaelod ac yn ôl
pob tebyg yn cael ei ddefnyddio ar gyfer storio. Ar y tri llawr uchaf
roedd yna nifer o ystafelloedd byw sengl â lle tân ymhob
un. Daethpwyd o hyd i weddillion adeiladau eraill y tu ôl i'r
adeiladau fferm presennol. Adferwyd Tŷ'r Tŵr yn 1999 ac mae nawr ar
agor i'r cyhoedd.
