Tŷ Trewarren a Monk Haven
Codwyd Tŷ Trewarren yn 1845 a chynlluniwyd dyffryn Monk Haven i fod yn erddi pleser coediog i'r ystad.
Monk Haven
Dynodwyd gardd cegin furiog yn rhan o'r dyluniad. Yn y 1950au cronnwyd y nant yn y dyffryn i greu llyn dyfrhau mawr. Dengys map o 1874 bod yna lyn yno cynt ond does yna fawr o'i olion i'w weld ar wahan i'r bambŵau addurnol a blannwyd ar y pryd. Gwelir y mur enfawr y tu ol i'r traeth ym mhaentiad Graham Sutherland, Llanisan-yn-Rhos (1976). Gosodwyd cylchoedd haearn ar dalcen y mur sy'n wynebu'r mor ar gyfer clymu badau. Gwelir gweddillion tŷ badau ar dalcen gorllewinol y mur yn wynebu'r tir mawr. Mae'r adeilad ar ben y clogwyni i'r dwyrain o Monk Haven yn ffolineb a adwaenir wrth yr enw Malakov. Yn ol pob tebyg cafodd ei enwi ar ol tŵr yn Sebastopol a gymrwyd gan y Prydeinwyr yn ystod Rhyfel y Crimea yn 1855. Rhydd hynny fras amcan o ddyddiad codi'r adeilad. Deuir o hyd i adeileddau rhyfedd eraill yn y coed o adeiledd cyffelyb ac o bosib o'r un cyfnod.
