Tŷ Portclew
Am ei fod wedi'i amgylchynu gan dir ar, cyfoethog, ffermydd Trewent, Lake a Portclew, mae olion o'r canol oesoedd i'w gweld o hyd.
Tŷ Portclew
Tenantiaid Tŷ Portclew o ganol yr unfed ganrif ar bymtheg tan 1841 oedd y teulu Llewelyn pan brynwyd yr eiddo gan Thomas Josiah Wedgewood, aelod o'r teulu crochenwaith o Sir Stafford, a aeth ati i droi'r tŷ'n breswylfa Rhaglywiaeth yn addas ar gyfer y `bonedd'. Erbyn heddiw, cafodd y tŷ a'r tai mas eu hadfer yn ofalus ac erbyn hyn mae'n lety ymwelwyr.
Gyferbyn, ac yn edrych dros y mor, roedd tŷ Upper Portclew eisoes yn dŷ bonedd a dyma'r tŷ mwyaf ym mhlwyf Llandyfai tan yr 1820au pan godwyd Llys Llandyfai. Yn 1841, oherwydd anghydfod rhwng William Parry o Upper Portclew a'r teulu Mathias o Lys Llandyfai, gwnaed y Twyni yn wastraff maenorol.
