Tai Hanesyddol
Roedd 7 aelwyd i Norchard (William Marichurch) ac East Moor (Thomas Lort) ym 1670.
Tu fewn Plasdy Maenorbŷr
Dywedir fod rhannau o'r anedd-dai canoloesol wedi'u cynnwys yn y Norchard modern (lle roedd yna hefyd felin ŷd gyda phwll a llifddor). Roedd Plasdy Maenorbŷr yn annedd canoloesol caerog ger Middle Hill. Adeiladwyd yr Elordy yng nghanol y pentref i gadw elor y plwy' (defnyddiwyd yr elor i gario'r meirw i'w claddu). Mae'r Elordy wedi'i adfer erbyn hyn a cheir paneli gwybodaeth ynddo yn adrodd hanes y plwy'.
