St Florence Church
Dim ond corff a changell oedd i'r eglwys hon yn wreiddiol, ac arferai fod tua dwy ran o dair o hyd yr adeilad presennol. Mae'r bedyddfaen a'r basn colofn o'r cyfnod hwn wedi goroesi.
Cafodd ei
ehangu yn y 13eg ganrif ac ychwanegwyd y twr yn y 1500au. Cafodd ei
adnewyddu'n helaeth ym 1870. Codwyd y llawr dair troedfedd (gan greu'r
hagiosgop isel) a gosodwyd y pulpud a'r organ. G.W. Birkett, a fu'n
ficer yno am 48 o flynyddoedd, oedd yn bennaf gyfrifol am y gwaith
adnewyddu.
Pan ddaeth i St. Florence, roedd ceiliogod ac ieir yn clwydo yn yr Eglwys a ceffyl yn cael ei gadw yn y cyntedd. Adnewyddwyd y twr a'r clychau ym 1963 ac erbyn hyn mae chwe chloch i'w clywed yn atsain trwy'r pentref, ar ôl ychwanegu dwy at y rhai gwreiddiol. Mae'r cofebau yn yr eglwys yn cynnwys rhai i deulu Williams o Ivy Tower, yr Esgob Ferrar o Dyddewi a losgwyd yng Nghaerfyrddin ym 1555, ac i Robert Rudd a fu'n Rheithor segurswydd yn St. Florence ac yn ddiweddarach yn Archddiacon Tyddewi; roedd yn weithgar ar ochr y Brenhinwyr yn ystod y Rhyfel Cartref, ac roedd ymhlith y rhai a garcharwyd ym mis Mawrth 1644 pan gymerwyd Dinbych-y-pysgod gan fyddin leol y Seneddwyr. Mae Croes yn y fynwent, hefyd Cofeb Rhyfel y pentref.
Ym 1923 unwyd ficeriaeth Redberth a St. Florence. Cafodd St. Florence a Redberth eu rhoi gyda Maenorbyr a Jameston ym 1985.
