Sgwâr y Farchnad
Sgwâr y Farchnad oedd canolbwynt y gweithgarwch ar ddiwrnodau marchnad a ffair, gyda masnachwyr lleol yn rhes ar hyd y strydoedd.
Hyd at y 1850au, safai tŷ o'r enw Island House ynghanol y sgwâr. Dadorchuddiwyd y gofeb yn 1924. Ychwanegwyd enwau dynion lleol a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd yn ddiweddarach. Goleuwyd y lamp standard drydan am y tro cyntaf ym 1900 i ddathlu rhyddhad Mafeking.
