Sandy Haven
Cilfach a ffurfiwyd gan lefelau'r mor yn codi ar ol yr oes ia ddiwethaf yw Sandy Haven.
Malacov Folly
Rhoddir lle amlwg i Sandy Haven ym mhaentiadau Sir Benfro Graham Sutherland. Dywedodd yr arlunydd fod ei ysbrydoliaeth wedi'i ailgynnau gan ansawdd rhyfeddol goleuni Sir Benfro. Adeiladwyd Fferm Sandy Haven yn y bymthegfed ganrif ac er iddi gael ei hailwampio dros y canrifoedd deil llawer o'r nodweddion gwreiddiol megis tŵr castellog yno o hyd.
