Safleoedd Crefyddol
Mae yna ffynnon hynafol, mewn ardal sy'n nodedig am ei harwyddocâd crefyddol, yn agos at anheddiad gwreiddiol Porthclew.
Adfeilion Capel
Mae'n bosib bod seremonïau cyn-Gristnogol wedi'u cynnal wrth y ffynnon, am fod pobloedd gynnar yn rhoi arwyddocâd arbennig i leoliadau lle'r oedd dŵr yn tarddu i'r wyneb. Mae dŵr mor bwysig i gynnal bywyd nes y byddai ffynnon fel hon yn cael ei hystyried yn gysegredig. Heb fod ymhell o'r ffynnon daethpwyd o hyd i bump o eirch carreg neu 'gistfeini' yn dyddio, yn ôl pob tebyg, o'r cyfnod Cristnogol cynnar ac yn 2002 daethpwyd o hyd i un ar ddeg o gladdedigaethau eraill na lwyddwyd i'w dyddio. Mae'n bosib bod y Capel Canoloesol hwyr, Portclew, sy nawr yn adfail, yn ffurfio rhan o daith y pererinion i Dyddewi. Ychydig a wyddys am y capel er y credir ei fod yn dyddio o'r bymthegfed ganrif pryd y gallai fod wedi'i enwi yn Santes Fair. (Preifat - gellir trefnu mynediad, holwch yn lleol)
