Orielton

Teuluoedd Orielton oedd Wirriot hyd ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, Owen hyd 1857 a Saurin ar ôl hynny. Roedd dylanwad a phresenoldeb yr ystad yn aruthrol. Amgylchwyd y plas, y tiroedd a'r parc o ryw 600 erw gan borthordai yr amryw fynedfeydd. Mae un o ddwy glwyd wyth droedfedd a safai'n wreiddiol wrth Rose Lodge Cottage ar ben Heol y Goets bellach wrth ymyl fferm Mellaston.

Orielton House

Tŷ Orielton

Roedd cyfarpar mewn gweithdy ar yr ystad (lle y mae Home Farm heddiw) yn cael ei yrru gan rod metal a ddefnyddiwyd gynt yng Nghilgeti ac a ddisgrifiwyd fel yr un cyntaf o'i fath yng Nghymru.

Prynodd R M Lockley Orielton ym 1954 a'i werthu 9 mlynedd yn ddiweddarach i'r Cyngor Astudiaethau Maes. Agorodd y Cyngor Astudiaethau Maes ganolfan ym 1963 sydd wedi ennill bri mawr ym maes astudiaethau ac ymchwil amgylcheddol a morol.

Orielton Duck DecoyDenwr Hwyaid Orielton

Denwr Hwyaid Orielton

Safir'r denwr hwyaid mewn pwll artiffisial 6 hectar a grewyd ym 1820 drwy godi argae ar draws cilfach thwng dau fryn. Adeiladwyd y ddyfais hon ym 1868 i ddal adar ar gyfer y bwrdd a'r farchnad. O bryd i'w gilydd rhwng 1934 a 1960 fe'i defnyddid i ddal adar er mwyn eu modrwyo a'u rhyddhau at ddibenion ymchwil wyddonol, ar gyfer Pwyllgor Ymchwiliad Adar y Dŵr (gyda Mr Stanley Greenslade yn gweithredu'r ddyfais) ac ar gyfer Cymdeithas Faes Gorllewin Cymru'n ddiweddarach.

Document Actions