Neuadd Tref Arberth

Safai adeilad ar y safle yn 1833, a rhestrwyd ef, fel 'tŷ carchar gydag ystafell uwchben iddo lle y cynhaliwyd llysoedd ynadon a chyfarfodydd lleol.'

Narberth main Erbyn 1858, cofnodwyd bod Neuadd y Dref yn dadfeilio, felly symudwyd y llysoedd ynadon a sirol i adeilad llys newydd. Daeth neuadd y dref wedyn i'w hadnabod fel y Mechanics Institute gyda llyfrgell, ac ystafell ddarllen a hamdden. Ychwanegwyd tŵr y cloc yn 1881, ac yn 1912 adeiladwyd y llawr uchaf.

Document Actions