Maes Awyr Tredeml
Adeiladwyd y maes awyr sy'n wag erbyn hyn ym 1942/43 fel maes awyr dibynnol i Hwlffordd.
Adeiladau Adeg y Rhyfel, Maes Awyr Tredeml
Roedd y gymuned yn ymwneud llawer â lles y rhai oedd yn gweithio yno ac agorwyd YMCA yn y capel annibynnol gan wasanaeth gwirfoddol y merched lleol. Roedd gan y pentref hefyd uned 'Home Guard' arbennig ac roedd ganddynt safleoedd amddiffynnol ar bwys y Boar's Head. Roedd y ffordd yn y fan yma i fod i chwythu i fyny pe byddai'r wlad yn cael ei goresgyn! Fe gafodd Maes Awyr Tredeml ei gau ym mis Mehefin 1945 ond mae'n parhau dan reolaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn ac fe'i defnyddir weithiau ar gyfer ymarferion milwrol.
