Loveston
Yr eglwys a ffermydd Great Loveston, Lower Loveston ac Upper Loveston, sy'n sefyll mewn clwstwr i'r dwyrain o Loveston Cross, oedd canol yr hen blwyf canoloesol. Roedd y felin ŷd led cae i ffwrdd.
Safai datblygiadau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, fel y capel a'r ysgol, ar y brif heol i Hwlffordd. Agorwyd Ysgol Fwrdd Loveston (a ddaeth yn Ysgol y Cyngor yn ddiweddarach) ar y 4ydd o Fedi 1876. Roedd yno 56 o ddisgyblion erbyn diwedd y flwyddyn, gyda 5 plentyn Lawford Merriman a'i wraig, o'r Felin, yn eu plith.
Mae eglwys Loveston wedi'i chysegru i Sant Leonard. Mae ganddi dŵr gwych sy'n dyddio o'r Canol Oesoedd gyda muriau amddiffynnol o amgylch y top a ffenestr fechan o gyfnod y Tuduriaid yn y mur dwyreiniol. Ni chafodd ei hatgyweirio yn y ganrif ddiwethaf, ac mae wedi cadw llawer o'i naws wreiddiol oherwydd hynny.
Cangen o gapel Molleston oedd Capel Bedyddwyr Loveston yn wreiddiol. Rhentwyd bwthyn ym 1867, ei newid yn dŷ cwrdd a'i alw'n Bethel. Ffurfiodd yr aelodau gapel ar wahân ym mis Awst 1906, ac agorwyd capel newydd ym mis Mai 1907. William Watkins a Frederick Merriman oedd y deaconiaid cyntaf. Sefydlwyd Capel Bedyddwyr Pisgah yng Nghei Cresswell, ond nid o fewn cymuned Jeffreyston, ym 1820 fel cangen o gapel Molleston.
