Llyn Walis

Ar wahan i amaethyddiaeth y prif ddiwydiant arall yn y gorffennol oedd y felin wlan yn Walis; credir iddi gael ei chodi ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif.

Wallis pondDeil gwasg lliain o'r cyfnod hwn yn y felin. Dengys y cofnodion cynharaf mai teulu'r Defisiaid oedd yn rhedeg y felin tan yr 1880au. Yr olaf i wehyddu yno oedd teulu'r Redpaths ac roedden nhw hefyd yn lliwio'r gwlan a deunyddiau naturiol tan 2001. Ffrwd danddaearol o Nant Spittal arferai droi'r rhod. Tua hanner can mlynedd nol disodlwyd yr olwyn ddŵr gan dyrbin y tu fewn i'r adeilad. Crewyd Llyn Walis i fod yn gronfa ar gyfer y felin. Ymwelodd Tywysog Siarl a'r safle pan gafodd ei adfer yn 1978. Roedd yna efail yn Walis ar ochr ddwyreiniol y Waun ond fe'i disodlwyd yn yr ugeinfed ganrif gan yr efail yn Garn.

Document Actions