'Lleiandy'
(Fe'i nodir fel 'gweddillion castell' ar y mapiau Arolwg Ordnans). Mae hwn yn adeilad sy'n dyddio o'r cyfnod canoloesol diweddar ac yn ei dro cafodd ei ddisgrifio'n lleiandy, yn dŷ caerog ac yn dŷ elusen. Roedd yn adeilad tra dyrchafedig o ran ei statws am fod y llawr cyntaf yn cael ei ddefnyddio fel annedd byw.
Addaswyd yr adeilad droeon a hynny
mae'n debyg am y tro diwethaf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae
rhai archeolegwyr yn awgrymu iddo gael ei godi gan Briordy Sant
Martin de Seez yn Ffrainc ac iddo gael ei feddiannu gan y goron yn
ystod y Rhyfel Can Mlynedd. O ganlyniad fe'i rhoddwyd i landordiaid
lleol a'i alw'n Faenordy tan ganol yr ail ganrif ar bymtheg pan
symudodd perchennog yr ystâd i'r Neuadd.
