Gweithfeydd Briciau Castell Hean
Cafodd y gweithfeydd briciau tân eu hagor tua 1840 wrth ochr Ffowndri Pont Wiseman, yn union y tu ôl i'r rheilffordd, drwy fanteisio ar y clai du a orweddai o dan y gwythiennau glo.
Cai ei gloddio yn Wilson's Pit ac amryw o lefydd eraill. Roedd y briciau'u hunain - y gorau yn y wlad yn ôl pob sôn - yn cael eu cyflenwi i'r gweithfeydd haearn a chwsmeriaid eraill. Caewyd y gweithfeydd hyn o'r diwedd ym 1887.
