Goleudy Penrhyn Santes Ann

Dywed hanesydd Sir Benfro, George Owen, bod Capel Santes Ann, y credir iddo gael ei waddoli gan Harri Tudur yn gydnabyddiaeth am gael glanio'n ddiogel, wedi bod yn dirnod ar gyfer llongau a ddeuai ar hyd yr Hafan.

St Anns LighthouseGoleudy Santes Ann

Roedd y capel yn adfail yng nghyfnod George Owen yn 1600 ond roedd y tŵr crwn yn dal yno. Yn 1713, ar ôl sicrhau hawl ar brydles oddi wrth Trinity House, aeth tirfeddiannwr lleol, Joseph Allen, ati i godi'r goleudy cyntaf ar Benrhyn Santes Ann. Yn ddiweddarach gosodwyd golau uchel a golau isel i gydweithio er mwyn tywys llongau'n ddiogel ar hyd yr Hafan. Ailadeiladwyd y goleudy presennol yn 1844.

Document Actions