Ffermydd Lydstep
Roedd pum eiddo o'r enw Lydstep - a'r sillafu'n amrywio.
Tŷ Lydstep, tua 1910
Gan ddefnyddio 1786 fel dyddiad angor, roedd West 'Lydstop' (y Palas) a Lydstep Farm (Home Farm), ym mhlwyf Penalun. Ym Maenorbŷr roedd Lydstep House, a fyddai maes o law yn eiddo John Adams ysw., gyda'r 'Weddw Teague' yn denant ynddo, eiddo tipyn yn llai a Gweddw Teague yn berchen arno ac yn byw ynddo (Court Farm o bosib?) a fferm o eiddo'r Arglwydd Milford o Gastell Picton.
Roedd gan hwn, a brynwyd fel rhan o Ystâd Treflwyn, statws arbennig fel eiddo arglwydd y faenor a chyfeiriwyd ato weithiau fel Manor Farm. Roedd yr un teuluoedd yn berchen ar 'Lydstep Farm' a 'Manor Farm' ers y 17eg ganrif gynnar, ond prynwyd yr 'Haven'/'Lydstep House' gan Adams oddi wrth Ystâd Stackpole.
