Fferm y Plas

Prin yw olion y plasdy cyfnod Elizabeth a adeiladwyd mae'n debyg gan John Vaughan cyn 1582.

Etifeddwyd y tŷ yn ddiweddarach gan ei ferch hynaf a'i gŵr, John Elliot o Gastell Amroth. 'Roedd ynddo 6 lle tân yn 1670, oedd yn ei wneud yn dŷ mwya'r dref. Mae'n debyg taw'r nodwedd fwyaf hynod ynddo oedd tŵr dau-lawr sy'n ymddangos yn llun-gerfiad Buck yn 1749. 'Roedd y teulu Elliot yn berchen ar y ran fwyaf o'r tir i'r gorllewin o Arberth, gan gynnwys y Town Moor, a roddwyd i'r dref yn y 18fed ganrif.

Document Actions