Eglwys y Santes Fair

Rhwng Lawrenni a Choedcanlas ceir gweddillion Eglwys y Santes Fair.

Dywedir i'r bwthyn gerllaw, â'i simnai arbennig gael ei adeiladu ar ddechrau'r 15fed ganrif ar gyfer warden yr eglwys. Ailadeiladwyd yr eglwys ei hun ym 1718 ond ni cheir cofnod ohoni yng Nghyfrifiad Crefyddol 1851. Cynhaliwyd y gwasanaeth olaf yma ym 1960. Mae'n debyg i'r fynwent fechan gerllaw'r eglwys gael ei defnyddio am y tro olaf ym 1861.

Document Actions