Eglwys y Plwyf (Sant Elidyr)
Efallai bod eglwys Sant Elidyr ar safle 'llan' cyn-Normanaidd. Ym 1150, trosglwyddwyd yr eglwys ynghyd â 50 erw o Dir Seintwar a 2 barsel o dir âr i Farchogion Sant Ioan o Gaersalem a oedd yn berchen ar ystâd yn Slebech.
Eglwys y Plwyf (Sant Elidyr)
Yn ôl y traddodiad lleol, John Elliot a fu'n gyfrifol am ailadeiladu'r eglwys a dywedir iddo hefyd ychwanegu Siantri er mwyn i'r offeren gael ei chanu dros ei enaid yntau ac eneidiau aelodau o'i deulu a oedd i'w claddu yn y gladdgell o dano.
Ailagorwyd yr eglwys ar 12 Gorffennaf 1855 ar ôl ailadeiladu rhannau ohoni ac estyn y rhan orllewinol 12 troedfedd (R Kyrke Penson pensaer a Thomas Thomas Rhydgoch, contractwr). Cafodd ei hadnewyddu'n helaeth unwaith eto ym 1899. Codwyd y Ficerdy ym 1886 a'i werthu ym 1980. Mae olion croes bregethu i'w gweld yn y fynwent.
