Eglwys Unedig Ddiwygiedig y Tabernacl
Sefydlwyd eglwys yr Annibynwyr yn 1817, ac adeiladwyd y capel gwreiddiol flwyddyn yn ddiweddarach.
Agorwyd yr adeilad presennol yn 1859, o flaen y capel
cyntaf. Galwyd Tabernacle Lane (wrth ochr y capel) yn Occupation Lane
yn ystod y 19eg ganrif, efallai oherwydd i'r ffordd gael ei cherdded
gan bobl leol yn mynd i'w gwaith.
