Eglwys Sant Ishel
Mae Saint Ishel yn hen blwyf, hŵn na'r pentref ei hun.
Mae'r enw'n dyddio'n ol i'r cyfnod Cristnogol cynnar pan oedd y
seintiau Cymreig yn efengylu yn yr ardal. Roedd yr eglwys, a enwid ar
ol Sant Usyllt (neu 'Issell', yn ol y ffurf wedi'i seisnigeiddio), ar
yr un safle a'r eglwys bresennol, neu yn agos iddo. Roedd yr eglwys
yn un bwysig yng nghyfnod cynnar Cristnogaeth yng Nghymru.
Roedd y safle hefyd yn ganolbwynt i nifer o ffyrdd - gelwir un ffordd a redai o'r arfordir presennol at Saint Ishel yn Church Way. (Mae Church Terrace yn rhedeg ar hyd yr un llwybr).
Eglwys Sant Ishel
Mae yno fedyddfaen o ddiwedd y cyfnod Normanaidd ac mae rhannau o'r eglwys, gan gynnwys y tŵr, yn dyddio'n ol i'r 13eg ganrif. Ychwanegwyd y gangell, y bwa a'r arced yn ystlys y gogledd yn ystod y 14eg ganrif. Cafodd yr eglwys ei hatgyweirio a'i ehangu'n sylweddol ym 1864 o dan arweiniad F.R. Kempson o Landaf a Henffordd. Ychwanegwyd y festri ym 1910. Ymhlith y rhai sy'n cael eu coffau gyda phlac neu ffenestr mae amryw o aelodau o deulu Child o Begelly House, Charles Ranken Vickerman a pherthnasau iddo, Syr William Thomas Lewis a'i ddisgynyddion, ac eraill a oedd wedi gwasanaethu'r plwyf mewn amryw ffyrdd.
Mae gan yr eglwys hardd hon Gwpan Cymun a Phaten o Oes Elizabeth ac eitemau rhoddedig eraill megis plât cymun a rhai enghreifftiau da o wydr lliw.
Croes bregethu
