Eglwys Sant Ioan
Adeiladwyd yr eglwys hon ym 1859. Cafwyd y fynwent o gwmpas yr eglwys yn rhodd gan Mr. J.C.H. Poyer-Callen.
Yn wreiddiol roedd yn giwradaeth parhaol wedi'i nodi allan o blwyf Arberth i'r Eglwys Lwyd ym 1863. Credir fod yr eglwys yn sefyll ar safle ysbyty o'r Canol Oesoedd a adeiladwyd gan Farchogion y Deml. Er hynny does dim tystiolaeth hanesyddol i gynnal y theori hon. Adeiladwyd Neuadd yr Eglwys yn yr 1890au ar dir a roddwyd gan Stâd Henllan. Cloddiwyd yr holl gerrig ar gyfer adeiladu o'r cae gyferbyn â'r eglwys.
