Eglwys Sant Elidyr
Cafodd pob rhan o'r eglwys hon ar wahân i'w hadain orllewinol ei hailadeiladu yn yr 1880'au gyda'r welydd droedfedd yn uwch.
Eglwys Sant Elidyr
Mae'r ffenestri i gyd yn perthyn i gyfnod yr atgyweirio ac eithrio un sy'n hŷn na'r lleill (wedi'i blocio erbyn hyn) wrth ymyl bwtres yn y wal orllewinol. Mae tŵr gorllewinol bach yr eglwys yn un o'i nodweddion mwyaf diddorol. Mae modd cyrraedd ato ar hyd grisiau allanol sy'n dilyn llinell y to. Mae basn y maen bedydd yn dyddio'n ôl i gyfnod y Normaniaid. Cafodd mynwent ychwanegol ei chysegru ar 11 Gorffennaf 1898. Prynwyd y tir oddi wrth Syr C.E.G. Philipps (Castell Picton) a'r Fonesig Philipps am £18.0.0. Nid yw safle ffynnon y Santes Fair yn hysbys erbyn hyn.
