Eglwys Sant Elidyr
Mae'r eglwys hon yn bur hynafol, ond fel y dangosodd y diweddar Charles F. Shepherd, roedd ei fframwaith wedi dirywio gryn dipyn erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Cafodd ei hailgodi ym 1843 a'i hadnewyddu ym 1878. Tynnwyd hen
oriel a seddau caeedig yr eglwys yn ystod yr adferiad. Cyflwynwyd ei
ffenestr ddwyreiniol o wydr lliw iddi er cof am gyn rheithor ac
ymhlith ei harysgrifau y mae un sy'n coffáu marwolaeth John
Howell ym 1727 (mab i Reynold Howell o Drenewydd a wrthododd dalu llw
teyrngarwch i William a Mary ym 1689).
