Eglwys Sant Caradog

Fe wnaethpwyd y tapestri Reredos, a welir ar yr allor, gan Mrs Patrick Lort-Phillips ac ynddo ceir hanes Sant Caradog.

St Caradog's ChurchEglwys Sant Caradog

Yn sicr mae i'r eglwys wych hon o'r 12fed ganrif gyda'r thŷr pedwar llawr yn rhoi golygfeydd rhagorol dros yr afon i Eglwys Caeriw, nifer o nodweddion diddorol yn cynnwys bedyddfaen Normanaidd a dau agoriad lletraws yn y wal. Maent wedi bod yno ers yr Oesoedd Canol er mwyn galluogi pobl i weld yr allor yn ystod yr offeren. Adeiladwyd y groesfa ddeheuol yn ystod y 14eg ganrif neu ar ddechrau'r 15fed ganrif ac yno 'roedd ffigur o farchog wedi'i wneud o garreg. Nid oes unrhyw wybodaeth amdano.

Symudwyd y ffigur yn ddiweddarach a bellach mae bedd Hugh Barlow wedi cymryd ei le. Fe fyddai bonheddwyr Castell Lawrenni yn eistedd yn y gangell; roedd ganddynt eu mynedfa eu hunain a llwybr preifat rhwng yr eglwys ar castell. Ym 1901 cyflwynodd Maude Lort-Phillips gloc i'r eglwys er cof am y Frenhines Fictoria. Roedd hi wedi bod yn gydymaith i'r Frenhines ac ym 1926 cyflwynodd ffenestr hardd o wydr lliw er cof am ei gŵr, y Cyrnol Frederick Lort Phillips.

Fe ellir cael gwybodaeth bellach y tu mewn i'r eglwys. Yn arbennig felly, ewch i weld y plac yn y gangell er cof am Elizabeth Jones sy'n cynnwys nodwedd anghyffredin - penglog ac esgyrn croes. Mae'r ddau blac yn y porth, er cof am Elizabeth Jones ac Elizabeth Griffiths yn destun dirgelwch gan na wyddys pwy oedd y merched hyn a pham y gosodwydd y placiau anarferol hyn er cof amdanynt.

Document Actions