Eglwys San Mihangel a’r Holl Angylion

Cafodd Eglwys San Mihangel a’r Holl Angylion ei hadeiladu, yn ôl y sôn, ar safle eglwys hŷn ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg.

St. Michael & all angelsMae ei nodweddion canoloesol yn cynnwys bedyddfaen a beddrod cerrig sydd i’w weld o dan ffenestr y groes ddeheuol. Cafodd ei hadnewyddu gan yr Arglwydd Cawdor ym 1855. Mae arfbais Cawdor i’w gweld ar loriau teils y gangell a’r seintwar. Adeiladwyd y ffenestr ddwyreiniol er cof am y Parchedig William Allen (Rheithor y plwyf rhwng 1831 a 1872), y ffenestr groes er cof am yr Hybarch David Edward Williams (1913-20) a’r Sgwint a’r Ffenestr orllewinol er cof am ŵr a thad cyn ysgolfeistres.

Medieval fontBedyddfaen Canol Oesol

Yn y fynwent y mae croes bregethu i’w gweld ar dri gris maen. Mae Dr. Sian Rees o’r farn bod pen a phaladr y groes honno’n perthyn yn wreiddiol i ddau ddarn gwahanol o adeiladwaith. Mae wyneb dynol ar y groes sydd ‘yn ôl pob tebyg yn cynrycholi Iesu Grist.’

 

 

 

 

 

 

 

Preaching cross

Croes Bregethu

Document Actions