Eglwys Llanrhian
Mae'n debyg mae sant Celtaidd anhysbys, digofnod o'r enw Rhian, Rein neu Rhun oedd sylfaenydd y Llan yn Llanrhian.
Mae'n debyg mae adeilad ar ffurf cell siap tŷ gwenyn wedi ei
wneud o blethwaith a dŵb oedd yr adeilad cyntaf ac iddo gael ei ail
osod yn ddiweddarach gan adeilad mawr pren. Yr adeilad carreg cyntaf
oedd y tŵr sy'n dyddio o'r 13ed ganrif. Mae'r muriau yn dair
troedfedd o drwch ac mae'r ffenestri yn gul ac yn rhoi iddo'r
ymddangosiad o dŵr amddiffynol. Mae trawstiau o bren derw yn cynnal
y gloch ac ar y gloch mae'r geiriau `John Perkins, R. P. T. M., bell
1697'. Mae'n debyg mai John Perkins oedd sylfaenydd y gloch ac mae R.
P. T. M. yw llythrennau cyntaf enw ceidwad yr eglwys ar yr adeg
honno. Ail adeiladwyd yr eglwys (ag eithrio'r tŵr) yn 1836 ac fe'i
hadnewyddwyd yn 1891. Mae Eglwys Llanrhian yn cael ei chynnwys ar
Daith y Cerrig a'r Seintiau, Sir Benfro.
