Eglwys Bresbyteraidd Hundleton
Merch eglwys Wallaston a sefydlwyd ym 1808, oedd hon. Cafodd gwasanaethau eu cynnal mewn bwthyn tan 1820 pan adeiladwyd capel. Ffurfiwyd yr eglwys ym 1846, ac estyn yr adeilad i'w faint presennol yn 1879.
Daeth y gwasanaethau i ben ym 1939 ond ailgydiwyd ynddynt yn Ionawr 1944. Yn Awst 1940 pan oedd tanciau olew Pennar ar dân, rhoddodd y capel noddfa i rai pobl a adawai Ddoc Penfro bob nos. Am na allai'r gynulleidfa fach gwrdd â chostau'r gwaith trwsio mawr angenrheidiol, roedd yn rhaid dod â'r gwasanaethau cyhoeddus i ben yn Ebrill 1995.
