Eglwys Bresbyteraidd Gilead, Maiden Wells
Cynhelid gwasanaethau mewn tai preifat cyn adeiladu'r capel a ffurfio'r eglwys hon ym 1845.
Capel Gilead
Agorwyd capel newydd ym 1876, ond defnyddir yr un cyntaf (a adwaenir erbyn hyn fel Ysgol Sul Gilead) ar gyfer cyfarfodydd a gweithgareddau. Dathlodd ei chant a hanner ym 1995 a chyflwynwyd dwy ffenestr newydd yn yr Ysgol Sul i nodi'r achlysur.
Capel Gilead ym 1845 - yn awr yn Ysgol Sul
