Eglwys Blwyf y Santes Fair

Y rhan hynaf o'r eglwys yw'r tŵr sy'n dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Yn wreiddiol roedd yr eglwys ar siâp croesffurf ond roedd Croesfa'r De yn y fath gyflwr gwael nes iddo gael ei dynnu i lawr yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

St MaryAdferwyd corff yr eglwys yn 1853 gan R. K. Penson (a weithiai'n agos gyda Capability Brown). Mae llawer o bobl yn gwerthfawrogi'r ffenestri lliw. Edrychwch ar Foses yn gwisgo cyrn yn y ffenestr ddwyreiniol - gwaith artistig sy'n ganlyniad camgyfieithiad cynnar o'r Beibl. Gosodwyd cloc ar y tŵr gan y pentrefwyr yn rhan o ddathliadau'r milflwyddiant.

Document Actions