Eglwys a Chapeli Dale
Mae eglwys y plwyf, sy wedi'i chysegru i Sant Iago, wedi'i lleoli'n agos at y castell mewn dyffryn cysgodol sy'n cysylltu traethau gorllewinol a dwyreiniol Dale.
Porth yr Eglwys
Gwelir olion canoloesol yng nghorff a changell yr eglwys, a tebyg bod y tŵr wedi'i ychwanegu'n ddiweddarach, yn ôl pob tebyg tua 1500. Cafodd yr eglwys ei hailadeiladu'n llwyr yn y ddeunawfed ganrif a'i hatgyweirio eto ar ôl ei tharo gan fellten yn 1889. Cyhoeddwyd taflen yn nodi hanes yr eglwys. Roedd capeli gan yr Annibynwyr a'r Wesleaid yn Dale o'r ddeunawfed tan yr ugeinfed ganrif. Caewyd y naill, a oedd ar y Cei, a'i addasu'n dŷ preifat yn y 1960au ac mae olion y llall i'w weld o hyd ger yr hen ysgol.
