Eastgate House

Yn ystod y 1840au bu'n ysgol breifat yn cynnig hyfforddiant i ddynion ar gyfer y weinidogaeth ymneilltuol.

Yn ddiweddarach, bu'n gartref i Hubert a Howard James, a adeiladodd un o'r awyrennau cyntaf yng Nghymru. 1913 oedd blwyddyn eu hediad cyntaf ym mhentref cyfagos Clunderwen, a phenderfynnodd y ddau ar ôl hynny i godi ffatri awyrennau yn Arberth; ond drylliwyd eu cynlluniau gan y Rhyfel Mawr, gan i'r ddau ymuno â'r Llu Awyr Brenhinol.

 

Document Actions