Earwear a Chastell Amroth

Earwear oedd sedd y teulu Elliott o ganol y bymthegfed ganrif hyd at 1756. Ym 1670 roedd ganddo bump aelwyd. Cyn diwedd y ddeunawfed ganrif roedd wedi cael ei werthu i James Ackland a adeiladodd y tŷ castellog a ddaeth i gael ei alw'n Gastell Amroth.

Amroth castleCastell Amroth

Bu farw ym 1820 a dilynodd newidiadau pellach. Tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg prynwyd y castell gan Owen Cosby Philipps a ddaeth yn Arglwydd Kylsant ym 1923.

Pan symudodd yr Arglwydd Kylsant daeth ei ferch hynaf, yr Arglwyddes Deerhurst a'i gŵr a'u teulu i fyw i'r tŷ. Aethant i dŷ'r teulu ger Caerwrangon pan ddaeth y gŵr yn Iarll Coventry. Lladdwyd yr Iarll yn ystod yr ail ryfel byd. Mae cof o hyd yn yr ardal am weithgareddau cymdeithasol o'r cyfnod hwnnw a oedd yn gysylltiedig â theuluoedd y Castell ac am y gwaith a gynigiwyd i'r bobl leol.

Document Actions