Cwmni Glo a Haearn Sir Benfro 1846

Dechreuwyd adeiladu yn Pleasant Valley ac agorwyd y Gweithfeydd Haearn ym 1849.

Cloddiwyd y mwyn haearn o lefelydd yn y clogwyni rhwng Saundersfoot ac Amroth a'i gludo ar hyd un o leiniau lleol y rheilffordd lle y cai haearn crai hefyd ei gludo i'w allforio o Saundersfoot. Ar ddiwedd eu hoes roedd y gweithfeydd haearn yn cynnwys dwy fwrnais chwyth, peiriannau chwythu, ffyrnau golosg, gweithdai ac odynau calch. Eto i gyd, symol iawn oedd eu llwyddiant: ni chafodd unrhyw haearn crai ei gynhyrchu ar ôl 1874 a daeth y gwaith i ben yn gyfan gwbl ym 1877. Cafodd y gweithdai eu defnyddio gan y pyllau glo lleol tan 1930.

Document Actions