Creseli
Mae cysylltiad clòs rhwng pentref Creseli a Cresselly House a'i bedwar 'lodge'. Yma, gyda nawdd y teulu Allen, y sefydlwyd yr unig ysgol o bwys cyn Deddf Addysg Elfennol 1870. Adeiladwyd yr Ysgol Genedlaethol hon, gyda thŷ, ym 1835, ond dywedir i'r sylfeini gael eu gosod ym 1812. Roedd yna allor fechan yn yr ysgol ac arferai aelodau o deulu Allen gymryd cymun yno yn ystod y 1930au a 40au.
Adeiladwyd Neuadd Bentref Creseli ym 1920 gan Mrs. Allen yn dilyn ffurfio Sefydliad y Merched ym 1919; y bwriad oedd ei redeg er lles y W.I. a’r gymuned am rent bychan o £1 y flwyddyn. Arferid cynnal nifer o ddigwyddiadau lleol ar y rinc sglefrio, (a adeiladwyd gan Henry Seymour Allen ar dir Cresselly House), ar ôl yr Ail Ryfel Byd: Te Dydd y Coroni, Ffeiriau’r Eglwys, Gwasanaethau Cofio ac Eisteddfod Flynyddol Capel Pisgah a oedd yn mynd yn ei flaen weithiau o 3 p.m. hyd 3 a.m.!
