Colomendy

Yn ôl pob tebyg fe'i codwyd yn y bymthegfed ganrif ar gyfer Tŷ'r Tŵr ac roedd yna bedair rhes ar ddeg o nythod carreg ar gyfer y colomennod.

DovecoteColomendy

Pan fyddai bwyd yn brin yn nhrymder gaeaf byddai cig yr adar yn ddefnyddiol iawn i'w fwyta. Dim ond Arglwyddi'r Faenor ac offeiriaid y plwyf oedd â'r hawl i godi colomendai ac, felly, roedd hwn yn adeilad o gryn bwys. Ar ddechrau'r ugeinfed ganrif fe'i defnyddiwyd yn lloches i anifeiliaid.

Document Actions