Colby Lodge

Prynodd y Lifftenant-Cyrnol John Colby o Ffynonne (Boncath) 123 erw o dir gan gynnwys 13 erw yn Redlangwig (sic) ym 1787, a chododd Colby Lodge yn ôl yr hyn a nodir ym 1803. Mae rhai o nodweddion y tŷ hwnnw wedi'u codi o gynlluniau Ffynonne a adeiladwyd rhwng 1792 a 1799 dan ddylanwad y pensaer John Nash.

Colby LodgeColby Lodge

Ym 1855 gwerthodd teulu Colby'r plasty a'r ystâd a oedd erbyn hyn ychydig yn fwy o faint. Bu gwerthiant arall ym 1873 a'r prynwr oedd Samuel Kay a brynodd ddarnau eraill o eiddo'n ddiweddarach.

Merch Samuel Kay, Gladys (1882-1964) a'i gŵr oedd yn bennaf gyfrifol am ddatblygu'r goedwig orllewinol neu'r 'plantation' fel y'i gelwir. Nith Mrs Crosland, Miss Elidyr Florence Dixon Mason a etifeddodd yr ystâd, a gwerthodd y tŷ, y ddôl a'r goedwig orllewinol i I.O. a Pamela Chance. Pan fu farw Miss Mason ym 1979, rhoddwyd gweddill ei thiroedd sef 880 erw i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rhoddwyd y tŷ a'i dir i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan Mr a Mrs Chance. Agorwyd darnau mawr o goetir a dolydd i'r cyhoedd ym 1989 sydd erbyn hyn yn denu mwyn na 25,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Document Actions